Cynllun Ieithoedd Swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol

 

Rhagair

 

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol olaf ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. Mae'r adroddiad hwn yn dangos y gwelliannau a'r cynnydd a wnaed yn ystod misoedd olaf y Pedwerydd Cynulliad a blwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad.  Mae llawer o'r gwaith wedi canolbwyntio ar y cyfnod pontio rhwng y ddau Gynulliad, a sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at ein huchelgais i gael ein cydnabod fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.

 

Dyma fy nghyfle cyntaf fel Comisiynydd y Cynulliad i gyflwyno'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol. Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Rhodri Glyn Thomas, fy rhagflaenydd am ei ymrwymiad i ymgorffori ethos dwyieithog cryf ar draws y sefydliad. Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghydweithiwr, Dai Lloyd AC a ymgymerodd â rôl Comisiynydd y Cynulliad gyda chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol am gyfnod byr ar ddechrau'r Pumed Cynulliad. 

 

Fel Comisiynydd ac Aelod Cynulliad newydd, cefais fy nharo gan ymrwymiad parhaus y Cynulliad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol lle mae dwyieithrwydd yn amlwg yn rhan naturiol o'i ddiwylliant a'i arferion gwaith. Mae Comisiwn y Cynulliad yn falch o'i enw da cynyddol am arloesi wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

 

Rydym wedi parhau i adeiladu ar y gwaith da a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, i ddysgu gan eraill a rhannu arbenigedd lle bo hynny'n bosibl. Wrth inni ddod â'r Cynllun presennol i ben a gweithredu Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad, sy'n adeiladu ar y gwelliannau a gyflwynwyd hyd yma, rydym yn hyderus y gallwn gadarnhau ein henw da fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy'n arwain y ffordd mewn darparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru.

 

 

Adam Price

Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau.

 

 

 

Cyflwyniad

 

Dyma'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol olaf ar gyfer y Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013. Dros gyfnod y Cynllun, uchelgais Comisiwn y Cynulliad oedd darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol a chael ei gydnabod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae camau sylweddol wedi'u cymryd ers 2013 i ymgorffori a hyrwyddo ethos a diwylliant dwyieithog.

 

Mae'r Bwrdd Rheoli yn ymrwymedig o hyd i gynnal a chynyddu'r ymgyrch i gyflwyno darpariaethau'r Cynllun, ac mae wedi annog staff i hwyluso gweithio dwyieithog mewn modd rhagweithiol wrth ddarparu pob gwasanaeth.  Fel yr amlinellwyd yn y blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn seneddol olaf y Pedwerydd Cynulliad, mae cynnal y momentwm a'r brwdfrydedd dros arloesedd a newid wedi bod yn flaenoriaeth, yn enwedig yng nghyd-destun Etholiad Cyffredinol y Cynulliad yn 2016 a misoedd cyntaf y Pumed Cynulliad.

 

Mae ein hymrwymiad i gyflawni ein nodau hirdymor yn parhau yr un mor gryf ag erioed, sef:

 

·           darparu mwy o wasanaethau dwyieithog rhagorol;

·           gwerthfawrogi ein staff am yr ymrwymiad y maent yn ei gynnig i’r Cynulliad a’u harbenigedd proffesiynol a seneddol; a

·           rhannu ein profiadau a’n gwybodaeth am weithio’n ddwyieithog gyda sefydliadau eraill.

 

Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad adolygu ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol  "cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl pob etholiad cyffredinol cyffredin…". O ganlyniad i hyn, roedd y paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad yn cynnwys gwaith ar yr adolygiad hwn a datblygu Cynllun ar gyfer y Cynulliad newydd.

 

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion am y gwelliannau a'r cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn seneddol olaf y Pedwerydd Cynulliad, dechrau blwyddyn seneddol gyntaf y Pumed Cynulliad a'r cyfnod pontio rhwng y ddau Gynulliad. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad yn amlinellu themâu â blaenoriaeth ar gyfer tymor y Cynulliad cyfan. Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar ein cyflawniadau o fewn y meysydd hynny â blaenoriaeth, yn darparu manylion am gwynion a gwersi a ddysgwyd yn ogystal ag amlinellu unrhyw feysydd o bryder neu flaenoriaethau ychwanegol wrth inni barhau i weithio tuag at gyflawni uchelgais y Comisiwn.
Gwasanaethau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth

 

Paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor

 

Gwnaeth blwyddyn seneddol olaf y Pedwerydd Cynulliad ein galluogi ni i ymgorffori darpariaeth ragweithiol o ran cymorth dwyieithog ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.  Mae'r canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd o sawl cynllun peilot, gan gynnwys papurau briffio dwyieithog a chyfieithu testun yn gyflym i Aelodau Cynulliad sydd am gyflwyno areithiau yn Gymraeg, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ein galluogi i weithredu ffordd fwy deilwredig a phwrpasol o ymateb i ddewisiadau Aelodau Cynulliad o ran gweithio'n ddwyieithog. Roedd y paratoadau ar gyfer y Pumed Cynulliad yn ystyried yn llawn yr angen i alluogi Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i weithio yn yr iaith o'u dewis yn ddiofyn.

 

Fel rhan o broses groeso a chynefino y Pumed Cynulliad, gwnaed darpariaeth i ddeall anghenion a dewisiadau iaith yr holl Aelodau Cynulliad a oedd yn dychwelyd, yn ogystal â'r Aelodau Cynulliad newydd a'u staff cymorth. Darparwyd rhaglen gynefino lawn ar gyfer pob Aelod Cynulliad newydd, ac roedd gweithio'n ddwyieithog yn rhan bwysig o'r rhaglen honno. Lle roedd dewis iaith Gymraeg yn hysbys, cafodd Aelodau'r Cynulliad eu paru gyda 'chyfeillion' dwyieithog i roi cyflwyniad cychwynnol i ystâd y Cynulliad ac i'w cefnogi wrth iddynt gyrraedd i ddechrau yn eu swyddi. Gwnaethom hefyd drafod dewisiadau iaith gydag Aelodau'r Cynulliad yn ystod y cyfnod hwn, a hwyluso eu dewis iaith lle bynnag y bo'n hysbys. Bydd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad yn adeiladu ar y wybodaeth a gasglwyd yn ystod y cyfnod hwn ac yn ymgorffori diwylliant o gynnig gweithio'n ddwyieithog yn rhagweithiol ymhellach.

 

Dyfyniad

 

Ar ôl cael fy ethol yn Aelod, cefais fy synnu pa mor gyfleus yw hi i weithio’n ddwyieithog yn y Cynulliad a pha mor braf yw cael gweithio mewn sefydliad sydd ag ethos gwirioneddol ddwyieithog. Mae’n golygu ei bod hi’n rhwydd i mi allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl y galw. Er fy mod wedi gweithio yn Senedd Ewrop, sy’n senedd amlieithog, mae’r gallu i ddefnyddio fy mamiaith mewn sefyllfa ffurfiol wedi dod fel chwa o awyr iach.

 

Eluned Morgan AC

 

 

Mae rhagor o waith wedi'i wneud hefyd i ymchwilio i ddarparu cymorth wedi'i deilwra a chymorth pwrpasol i Aelodau Cynulliad unigol. Drwy waith y timau pwyllgor integredig, mae Aelodau'r Cynulliad wedi nodi eu dewisiadau ar gyfer amseru, iaith a chynnwys y dogfennau ategol. Mae'r gwaith tîm hwn yn caniatáu i Aelodau'r Cynulliad baratoi ar gyfer yr holl ddadleuon a thrafodaethau yn yr iaith o'u dewis, yn ogystal â chyfrannu yn yr iaith o'u dewis. Mae cymorth wedi'i deilwra yn parhau i gael ei ddarparu i Gadeiryddion Pwyllgorau er mwyn eu galluogi i baratoi ar gyfer dadleuon a chyflwyno areithiau yn yr iaith o'u dewis. Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi hefyd yn cynnig gwasanaeth gwirio terminoleg i gynorthwyo gyda drafftio nodiadau siarad. Byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau Cynulliad a'u staff cymorth i ddod o hyd i ffyrdd amgen ac arloesol o ddarparu'r cymorth angenrheidiol er mwyn eu galluogi i weithio yn yr iaith o'u dewis yn ddiofyn.

 

Dysgu iaith

Tuag at ddiwedd 2015, cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad adolygiad manwl o'i ddarpariaeth dysgu iaith ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Comisiwn. Diben yr adolygiad oedd atgyfnerthu'r ymagwedd ddarniog flaenorol i ddysgu iaith a sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fod mor hyblyg ac wedi'i deilwra â phosibl. O ganlyniad i'r adolygiad, a chynllun peilot a arweiniodd at benodi Tiwtor Cymraeg mewnol dros dro i staff y Comisiwn, sefydlwyd y tîm Sgiliau Iaith. Mae'r tîm yn cynnwys Rheolwr Diwtor a dau Diwtor sydd wedi'u penodi. Mae gwaith y tîm hefyd yn cael ei gefnogi gan bedwerydd aelod sy'n darparu cefnogaeth achlysurol pan fo angen. Mae sefydlu'r Tîm Sgiliau Iaith wedi caniatáu i Gomisiwn y Cynulliad ymateb yn greadigol i anghenion dysgu iaith Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth a staff y Comisiwn. Mae'r Tîm wedi cynllunio rhaglen arloesol o ddysgu er mwyn galluogi dysgwyr o bob lefel i gymryd rhan a gwneud cynnydd. Mae'r Tîm hefyd wedi datblygu ymhellach y brand 'Dysgwr' sydd bellach yn logo adnabyddus ar draws ystâd y Cynulliad. Mae'r tîm bellach yn cefnogi dros 100 o ddysgwyr yn rheolaidd yn ogystal â darparu hyfforddiant untro, er enghraifft ateb y ffon neu gadeirio cyfarfodydd yn ddwyieithog, i eraill.

 

Dyfyniad

 

Ers i’r cortynnau gwddf 'Dysgwr' gael eu cyflwyno yn y Cynulliad, rwy’n dechrau sgwrs yn Gymraeg gyda llawer mwy o bobl. Mae’n ffordd dda o gynyddu hyder dysgwyr, yn enwedig i’r rhai sydd ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i wisgo’r cortynnau gwddf Iaith Gwaith arferol.

 

Elin Jones AC, Llywydd

 

 

Dyfyniad

 

Dechreuais weithio i Aelod Cynulliad yng ngogledd Cymru yn dilyn yr etholiad ym mis Mai. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig imi wella fy sgiliau Cymraeg fel y gallwn o leiaf geisio siarad Cymraeg sylfaenol gyda rhai etholwyr. Mynychais gwrs dwys am dri diwrnod yn ystod toriad yr haf, llwytho'r ap "Dweud rhywbeth yn y Gymraeg" ac rwyf bellach yn bwriadu datblygu fy nysgu drwy fynychu gwersi wythnosol gyda'r Tîm Sgiliau Iaith. Erbyn hyn, rwy'n teimlo'n fwy hyderus i o leiaf roi cynnig arni ac rwy'n edrych ymlaen at roi hyn i gyd ar waith.

 

Julie Price, Uwch-ymgynghorydd i Nathan Gill AC

 

Aelodau Cynulliad a’u hetholwyr

 

Rydym wedi parhau i weithio gydag Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu â'u hetholwyr yn yr iaith o'u dewis a chynhyrchu dogfennaeth ddwyieithog sy'n gysylltiedig â'r etholaeth. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus y llynedd, mae cronfa gyfieithu Busnes Etholaethol Aelodau'r Cynulliad wedi'i hymestyn i gynnwys cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau etholaethol. Mae pob Aelod Cynulliad newydd a'r Aelodau sydd wedi dychwelyd wedi cael gwybodaeth am y defnydd o'r gronfa, ac mae'r defnydd a wneir ohoni'n parhau'n gyson. Byddwn yn parhau i weithio gydag Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i ddatblygu templedi a thestun safonol er mwyn hwyluso gweithio'n ddwyieithog yn eu cymunedau.

 

Dyfyniad

 

Mae’r trefniant newydd i gael gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn yr etholaeth yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i aelodau’r cyhoedd. Rydym wedi gwneud cryn ddefnydd o’r gwasanaeth ac mae’r cyfarfodydd eu hunain yn cael eu cynnal yn naturiol yn y naill iaith neu’r llall.

Heledd Roberts, Rheolwr Swyddfa i Rhun ap Iorwerth AC

 

 

Dyfyniad

 

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roeddwn yn gweithio i Aelod Cynulliad a oedd yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol fel rhan o’i waith fel Aelod. Roeddwn yn gwneud defnydd cyson o’r gwasanaeth cyfieithu i Aelodau er mwyn cyfieithu cwesitynau ac areithiau byr o’r naill iaith i’r llall. Roedd y ffaith fy mod yn gallu defnyddio Microsoft Translator ac wedyn anfon y cyfieithiad i’w brawfddarllen mewn amser byr iawn yn help enfawr. Fel dysgwr, fe helpodd hynny fi i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’r Aelod a’i ethowyr fel y’i gilydd, ac fe helpodd fi i wella fy Nghymraeg.

 

Rheolwr Swyddfa i Aelod Cynulliad

 

 

Astudiaeth Achos - Technoleg ac ymgysylltu

Mae gwasanaeth Cyswllt Cyntaf y Cynulliad wedi bod yn treialu’r defnydd o iBeacons dwyieithog yn y Senedd a’r Pierhead. Dyfeisiadau bach Bluetooth yw I-Beacons sy’n darlledu signal adnabod unigryw ac y gall ffonau a thabledi eu pigo. Maent wedyn yn darlledu cynnwys sydd wedi ei recordio o flaen llaw yn unol â lleoliad yr ymwelydd yn yr adeilad. Gall y Beacons ddod â nodweddion pensaerniol a hanesyddol ein hadeliadau eiconig yn fyw. Bydd ymwelwyr yn gallu ymwneud â ni yn uniongyrchol drwy eu dyfeisiadau symudol a gallant ddewis ar ba ran o’r adeilad yr hoffent ganolbwyntio. Mae’r holl gynnwyd wedi ei lunio’n ddwyieithog a’i brofi ar ystad y Cynulliad. Caiff y teithiau eu cyflwyno’n llawn yn 2017 ac yn eu tro gellir eu cynhyrchu mewn ieithoedd eraill.

 

 

 

02. Gwasanaethau i bobl Cymru

 

Ymwelwyr ag Ystâd y Cynulliad

Ers i'n contractwyr arlwyo benodi staff dwyieithog ychwanegol, rydym wedi gweld defnydd rhagweithiol o'r iaith yng nghaffi'r Senedd ac o'i amgylch.

Mae'r holl staff arlwyo wedi cael hyfforddiant sgiliau cwrteisi sylfaenol ac rydym wedi gweithio gyda'n contractwyr i recriwtio mwy o aelodau o staff dwyieithog i wella'r gallu dwyieithog ar gyfer digwyddiadau a lletygarwch.

 

Mae'r Tîm Sgiliau Iaith yn gweithio gyda'r tîm Diogelwch i ddatblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer pob aelod o'r tîm. Bydd hyn yn adeiladu ar waith blaenorol i sicrhau bod pob aelod o staff Diogelwch llinell flaen yn datblygu sgiliau cwrteisi sylfaenol, a bydd hefyd yn annog dysgwyr mwy hyfedr i ddefnyddio eu sgiliau yn y gweithle. Yn ystod y diddymiad, buom yn gweithio gyda'r tîm i dreialu rhai dulliau newydd, gan gynnwys mentora un-i-un, hyfforddiant yn y gwaith a darparu aide memoires ac adnoddau sain ar gyfer aelodau newydd o staff.

 

 

Cefnogi cydweithwyr

 

Yn ogystal â darparu cymorth dysgu iaith, mae'r Tîm Sgiliau Iaith yn gweithio ar raglen gynhwysfawr sydd wedi'i hanelu at staff sydd eisoes â rhywfaint o sgiliau Cymraeg, ond sydd o bosibl yn brin o hyder. Mae'r sesiynau 'gloywi iaith', gan gynnwys sesiynau 'gwella' gramadeg ffurfiol yn ogystal â mentora mwy anffurfiol ar gyfer unigolion neu grwpiau bach, i gyd yn elfennau pwysig o waith y Tîm Sgiliau Iaith. Byddant yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu ein hethos dwyieithog ymhellach, lle mae pob aelod o staff yn teimlo'n gyfforddus i ddefnyddio a gwella ei sgiliau, ac yn teimlo y caiff ei werthfawrogi am y sgiliau sydd ganddo.

 

Rhannu arbenigedd

 

Mae Comisiwn y Cynulliad unwaith eto eleni wedi ymwneud yn rhagweithiol i ddarparu cyngor a rhannu arbenigedd gydag ystod o gyrff allanol. Rydym wedi gweithio gyda nifer o gyrff academaidd, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cyfrannu at nifer o fodiwlau academaidd ar gyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd. Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi wedi cynnal ei gydberthynas cydweithredol gyda'r Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd [ITI] a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

 

Rydym hefyd wedi datblygu ein cydberthynas â nifer o sefydliadau allanol, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill, i roi cyngor a chyfarwyddyd ymarferol ar faterion sy'n ymwneud â sefydlu a rhedeg gwasanaeth cyfieithu a'r defnydd effeithiol o dechnoleg iaith. Mae ein henw da fel arweinwyr yn gweithio'n ddwyieithog yng Nghymru yn ein galluogi i rannu ein profiad o ddefnyddio technoleg iaith, darparu gwasanaethau pwrpasol, hyfforddiant iaith mewnol ac ati gyda charfan ehangach o gyrff a sefydliadau.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn parhau i fwynhau cydberthynas adeiladol â Chomisiynydd y Gymraeg ac rydym yn ymgynghori â swyddfa'r Comisiynydd ar ystod o faterion, gan gynnwys y broses o ddrafftio'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Astudiaeth achos - Rhannu arbenigedd

 

Fe gawson ni gyfarfod â swyddogion y Cynulliad ynghylch eu profiad hwy o gyflwyno cyfieithu peirianyddol i’w staff. Roedd eu cyngor arbenigol ac ymarferol yn werthfawr iawn, ac yn dilyn hynny, penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno’r dechnoleg i’w staff, gan lunio canllawiau ar y defnydd doeth o gyfieithu peirianyddol yn y gweithle. Mae’r dechnoleg yn ddefnyddiol wrth roi brasgyfieithiad i ddefnyddwyr di-Gymraeg, a bydd yn helpu i gynyddu faint o gyfathrebu dwyieithog sy’n digwydd ar draws y sefydliad.

 

Bethan Griffiths, Prif Swyddog Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

 


 

 

03. Gwasanaethau i staff y Cynulliad

 

Cynllunio ar gyfer darparu gwasanaeth dwyieithog

 

Mae gan bob maes gwasanaeth unigol y Cynulliad ei gynllun iaith ei hun. Mae'r cynllun yn amlinellu'r gallu dwyieithog o fewn timau, ac yn rhoi manylion am y prosesau a'r gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog. Pan fydd swyddi newydd yn cael eu creu neu swyddi'n dod yn wag, bydd Penaethiaid Gwasanaeth yn defnyddio'r cynllun iaith maes gwasanaeth i benderfynu ar y lefel o sgiliau iaith angenrheidiol ar gyfer y swydd i'w hysbysebu. Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau Comisiwn y Cynulliad sy'n gyfrifol am gytuno ar sefydlu swyddi newydd a llenwi swyddi gwag, ac wrth wneud hynny mae'n ystyried y gofyniad o ran sgiliau iaith ar gyfer pob swydd.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Bwrdd Rheoli y Cynulliad ei adolygiad gallu blynyddol i sicrhau bod lefelau staffio digonol ar gael ar gyfer y Pumed Cynulliad. Fel rhan o'i ystyriaethau, roedd gallu dwyieithog o fewn timau yn thema ofynnol er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog fel rhan arferol a naturiol o'u gwasanaethau. Byddwn yn parhau i weithio gyda meysydd gwasanaeth unigol i ddatblygu a diweddaru cynlluniau iaith er mwyn sicrhau bod y gwaith cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog yn rhan annatod o bob maes.

 

Mae'r Fforwm Cydgysylltwyr Ieithoedd Swyddogol, sy'n cynnwys un cynrychiolydd o bob maes gwasanaeth, yn parhau i roi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ac yn monitro cydymffurfiaeth o fewn meysydd gwasanaeth. Mae'r Cydgysylltwyr hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau newydd o staff o fewn meysydd gwasanaeth yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael dealltwriaeth o'r gofynion ar gyfer eu swydd benodol.

 

Astudiaeth achos - Fideo Ymwybyddiaeth Iaith

 

Er mwyn sicrhau bod pob aelod newydd o staff yn ymwybodol o ddiwylliant ac ethos dwyieithog y sefydliad o'r cychwyn cyntaf, roedd angen ffordd arnom o sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn fuan ar ôl iddynt ymuno â'r Cynulliad. Defnyddiwyd arbenigedd mewnol i sgriptio, cofnodi, golygu a chynhyrchu ein fideo ymwybyddiaeth iaith ein hun fel y gallai staff dderbyn hyfforddiant yn ystod eu hwythnos gyntaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu diweddaru'r cynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn gyfredol. Gellir defnyddio'r fideo hefyd i ddiweddaru staff sydd wedi derbyn hyfforddiant beth amser yn ôl. Mae wedi cael ei dderbyn yn dda ac wedi ysgogi trafodaeth ar draws y sefydliad.

 

 

Dyfyniad

 

‘Cefais fy sbarduno gan y fideo i ddechrau cael gwersi Cymraeg y mae’r Cynulliad yn eu cynnig. Fel rhywun sy’n dod o Loegr, roedd y Gymraeg yn newydd i mi, ac rwy’n teimlo y bydd dysgu’r iaith yn cyfoethogi fy amser yn y Cynulliad a fy mywyd bob dydd yng Nghymru.’

 

Katy Orford, y Gwasanaeth Ymchwil

 


 

04. Monitro ac adrodd

 

 

Cydymffurfio

 

Mae Cydgysylltwyr Ieithoedd Swyddogol yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth o ddydd i ddydd, ac maent wedi adrodd unwaith eto eleni mân achosion o fethu â chydymffurfio â gofynion y Cynllun. Mae'r cyhoedd hefyd wedi codi achosion o fethu â chydymffurfio drwy sianeli ffurfiol ac anffurfiol. Pan fydd achosion o'r fath yn cael eu nodi, bydd y Cydgysylltwyr yn trafod y materion gyda'r aelodau perthnasol o staff er mwyn sicrhau bod achosion o fynd yn groes i'r cynllun yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i bob aelod o staff er mwyn sicrhau llai o achosion o ddiffyg cydymffurfio. Mae Penaethiaid Gwasanaeth, y Cydgysylltwyr a rheolwyr llinell yn atgyfnerthu disgwyliadau'r Cynllun yn rheolaidd ac mae'r Tîm Ieithoedd Swyddogol yn rhoi cyngor a chymorth yn ôl yr angen.

 

Cwynion

 

Ar adegau yn ystod y flwyddyn rydym wedi methu â chyflawni'r safonau uchel rydym yn gosod inni ein hunain ac wedi methu â chyrraedd disgwyliadau Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth neu'r cyhoedd. Mae nifer o gwynion anffurfiol a ffurfiol wedi dod i law, a gellir eu categoreiddio fel a ganlyn:

 

Technoleg

 

Bu adegau pan rydym wedi methu â chyhoeddi dogfennau yn unol â gofynion ein Cynllun oherwydd materion technolegol. Rydym hefyd wedi cael gwybod am nifer o achosion o lincs i ddogfennau Cymraeg sy'n arwain at y fersiynau Saesneg neu lincs sydd wedi torri. Mae adborth ar faterion o'r fath yn hynod werthfawr inni gan ei fod yn ein galluogi i gywiro camgymeriadau neu broblemau yn gyflym.

 

Dewis iaith

 

Mae adborth gan y cyhoedd wedi dangos bod achlysuron lle maent wedi methu â defnyddio eu dewis iaith wrth ymgysylltu â ni. Rydym wedi canfod problem gydag offer y ganolfan alwadau yn ein swyddfa yng ngogledd Cymru, gyda galwadau o bryd i'w gilydd yn cael eu hailgyfeirio yn awtomatig at y llinellau anghywir gan arwain at siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyfeirio at linellau Saesneg. Mae gweithdrefnau wedi cael eu rhoi ar waith i ganfod achosion o'r fath cyn gynted â phosibl ac i alluogi'r galwr i ddefnyddio ei ddewis iaith, hyd yn oed pan fydd yn cael ei gyfeirio at y llinell anghywir.

 

Gwasanaeth cwsmeriaid

 

Yn gyffredinol, mae profiad ymwelwyr yn y Senedd o safbwynt dwyieithog wedi bod yn dda gydag ymwelwyr yn nodi ethos dwyieithog y sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â grŵp o ymwelwyr a ofynnodd am wasanaeth Cymraeg y gwnaethom fethu â'i gyflawni. Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn cael ei gynnal ac rydym wedi cymryd y cyfle i sicrhau bod ein tîm Cyswllt Cyntaf a phartneriaid eraill yn ymwybodol o ofynion y Cynllun a sut i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol. Byddwn yn gweithio gyda'r timau priodol i atgyfnerthu'r angen i gynnig gwasanaethau dwyieithog mewn modd rhagweithiol.

 

Ymgynghoriadau'r Pwyllgorau

 

Rydym wedi cael gwybod pan fyddwn yn comisiynu tystiolaeth ar gyfer Ymchwiliadau neu Ymgynghoriadau Pwyllgorau nad ydym wedi bod yn ddigon clir o ran sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, gan arwain at gŵyn yn cael ei gwneud. Bydd y geiriad ar gyfer cyhoeddi a gwneud cais am dystiolaeth a dogfennau gan drydydd parti yn y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad yn cael ei ddiwygio er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb. Byddwn yn gweithio gyda thimau'r Pwyllgorau i sicrhau bod geiriad unrhyw geisiadau am dystiolaeth neu ddogfennau eraill yn glir ac yn unol â gofynion y Cynllun.

 

 

Y gwersi a ddysgwyd

 

Rydym yn annog Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth, y cyhoedd a'n staff i roi adborth ar ein gwasanaethau dwyieithog ac rydym yn ymrwymedig i ddysgu o unrhyw adborth a gawn. Mae'r prif themâu sy'n codi o ganmoliaeth, cwynion ac adborth yn rhoi arwydd clir o arfer da a meysydd y mae angen eu gwella neu eu cryfhau. Bydd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad yn adeiladu ar yr arfer da a sefydlwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad ac yn mynd i'r afael ag unrhyw wendidau. Bydd y Cynllun yn amlinellu themâu â blaenoriaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad a fydd yn cryfhau ein hethos a'n diwylliant dwyieithog ymhellach ac yn ein galluogi i gyflawni uchelgais y Comisiwn i gael ei gydnabod fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.